Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

KROCH, HEINZ JUSTUS (Henry) (1920 - 2011), peiriannydd a dyn busnes

Enw: Heinz Justus Kroch
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2011
Priod: Margot Emma Natalie Reece (née Kohlstadt)
Plentyn: Anthony Kroch
Plentyn: Ian Kroch
Plentyn: Maggie Kroch
Rhiant: Lily Kroch (née Rummelsburg)
Rhiant: Isaac Kurt Kroch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd a dyn busnes
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Rhys David

Ganwyd Heinz Kroch ar 28 Hydref 1920 yn ninas Leipzig yn yr Almaen, yn fab i rieni Iddewig, Isaac Kurt Kroch (g. 1884), cyfreithiwr, a'i wraig Lily (g. Rummelsburg, 1891). Ar ôl hyfforddi fel peiriannydd yn y Swistir, cymerodd Kroch swydd gyda chwmni peirianneg fecanyddol ym Manceinion yn 1939, a hynny'n ddiau'n fodd i ddianc rhag Gwrthsemitiaeth chwyrn yr Almaen ar y pryd. Mae'n debyg mai'r adeg honno y bu iddo fabwysiadu'r enw Saesneg Henry.

Nid oedd unrhyw argoel yn y cyfnod hwnnw y byddai Kroch yn dod yn un o'r bobl bwysicaf ym mywyd Cymru wedi'r rhyfel, gan greu cwmni electroneg cydwladol a fyddai'n cyflogi miloedd o weithwyr, a gwasanaethu ar fyrddau nifer o brif sefydliadau Cymru.

Daeth y cyfle tyngedfennol a arweiniodd at y cyfeiriad newydd hwn pan ymunodd yn 1951 ag AB Metal Products, cwmni teuluol bychan gyda dim mwy na chant o weithwyr, a ddenwyd i Abercynon yng Nghwm Cynon yn rhan o ymdrechion y llywodraeth i ganfod swyddi cynhyrchu ysgafn newydd ar gyfer glowyr a gollodd eu gwaith wrth i faes glo de Cymru grebachu. Daeth Kroch yn un o gyfarwyddwyr y cwmni yn 1959, a chododd i fod yn rheolwr gyfarwyddwr yn 1964 ac yn gadeirydd yn 1978.

O dan arweiniad Kroch newidiodd cyfeiriad y cwmni i'r diwydiant electroneg a oedd yn datblygu'n gyflym, gan ennill enw da fel cynhyrchydd cydrannau dibynadwy, gyda phwyslais arbennig ar farchnad lewyrchus nwyddau defnyddwyr - radio, teledu, a pheiriannau chwarae recordiau. Ehangodd y cwmni yn nes ymlaen i sectorau eraill, gan gyflenwi Acorn a Sinclair ym maes eginol cyfrifiaduron, a dod yn ddiweddarach yn gontractor mawr i'r diwydiannau amddiffyn ac offeryniaeth a rheolaeth.

Ar ei anterth, cyflogai'r cwmni 5,500 o weithwyr yng Nghymru ac ar draws gweddill Ewrop, ond yn sgil toriadau ym maes amddiffyn yn y 1980au a'r 1990au disgynnodd gwerth y cwmni ar y farchnad stoc. Dan yr enw AB Electronic Components a adlewyrchai ei arbenigedd yn well erbyn hynny, fe'i cyfunwyd yn 1993 â TT Electronics, cwmni a'i bencadlys yn Surrey, ond hyd at 2024 cadwai bresenoldeb cynhyrchu sylweddol yng Nghymru, yng Nghasnewydd ac yn ei leoliad cychwynnol yn y Cymoedd, Abercynon.

Kroch oedd y tu ôl i symudiad y cwmni i mewn i faes allforio yn y 1960au, a hynny er mwyn gwrthsefyll llanw a thrai yn y galw ym Mhrydain yn sgil dirywiadau economaidd, cyfyngu ar hurbrynu a newidiadau treth. Ehangwyd wedyn i'r Almaen trwy sefydlu is-gwmni AB i gydosod cydrannau a anfonwyd o Gymru, ac agorwyd safleodd newydd mewn rhannau eraill o dde Cymru, gan gynnwys Caerdydd. Kroch oedd un o'r dynion busnes cyntaf yng Nghymru i gefnogi ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd). Gydag AB Metal Products roedd wedi dechrau adnabod yr angen am farchnadoedd llawer mwy er mwyn cyfiawnhau'r gwariant cyfalaf trwm i awtomeiddio prosesau ac aros yn gystadleuol.

Yn 1956 priododd Margot Emma Natalie Reece (g. 1922 yn Magdeburg, yr Almaen). Ganwyd iddynt ddau fab, Anthony ac Ian, ac un ferch, Maggie.

Yn y 1980au dechreuodd Kroch roi mwy o'i amser i swyddogaethau ym mywyd cyhoeddus y wlad yr oedd wedi dod i'w charu. Dywedodd ei fab Ian amdano adeg ei farwolaeth fod yn gas ganddo ei fywyd newydd yng Nghymru ar y cychwyn ac nad oedd am ddadbacio hyd yn oed, ond iddo ddod yn hoff ohoni yn fuan a'i gweld yn debyg i'r Swistir o ran prydferthwch ei thirwedd.

Gwelwyd ei awydd i roi rhywbeth yn ôl pan gymerodd swydd cadeirydd cyntaf y Sefydliad Materion Cymreig (SMS) adeg ei lansio yn 1987 gan griw o bobl fusnes flaenllaw Cymru. Yn ôl ei gydweithwyr rhoddodd arweiniad ysbrydoledig, gan sicrhau bod seiliau cadarn yn cael eu gosod yn ystod pum mlynedd cyntaf y felin drafod. Ar y cychwyn, gan adlewyrchu arferion busnes, cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol y peth cyntaf yn y bore yng Nghaerdydd er mwyn rhoi'r egin sefydliad ar ei draed.

Roedd Kroch wedi gweld pa mor bwysig oedd hi i Gymru gael corff annibynnol a allai godi safon y drafodaeth a chyfrannu ar y materion mawr a wynebai Gymru. Roedd adfywio Cymoedd de Cymru yn flaenoriaeth fawr i'r SMS o'r cychwyn cyntaf. Kroch oedd cadeirydd y Grŵp Llywio yn 1988 pan gynhyrchodd ei adroddiad cyntaf, Cymoedd De Cymru: Agenda i Weithredu, a daeth yn hyrwyddwr angerddol dros argymhellion y ddogfen. Ysgrifennodd yn y Rhagair: 'Most of my working life has been spent in the Valleys and nowhere is now closer to my heart'. Mabwysiadwyd llawer o'i awgrymiadau gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Peter Walker, yn ei 'Valleys Initiative' ar ddiwedd y 1980au.

Fel y gweddai i frodor o ddinas a oedd â chysylltiad agos â nifer o gyfansoddwyr enwog yr Almaen, daeth Kroch yn noddwr cerddoriaeth yng Nghymru, gan wasanaethu ar fyrddau'r Cwmni Opera Cenedlaethol a Cherddorfa Siambr Cymru. Roedd hefyd yn aelod o Gyngor Cymru cyn datganoli a gynigiai gyngor polisi ar faterion Cymreig.

Yn aelod sefydlu o Urdd Lifrai Cymru, anrhydeddwyd Kroch ag OBE yn 1968 a CBE yn 1983. Ef oedd Rhyddfreiniwr cyntaf bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, ac yn ôl y sôn dyna'r gamp yr oedd falchaf ohoni. Bu'n byw yn ei ymddeoliad ym Mhenarth, a hongiai lamp glöwr o Gymru yn y stydi lle byddai'n gwneud y rhan fwyaf o'i weithgareddau. Bu farw Henry Kroch ar 6 Gorffennaf 2011.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-04-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.